Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Mehefin 2018
Amser:
09.01 -
11.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4839
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Faye Gracey, Llywodraeth Cymru Julie Morgan AC Dr Grahame Guilford, y Panel Sector Gwyddorau Bywyd Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Dr Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Rob Stewart, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol; Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru; a Faye Gracey, Pennaeth Dadansoddi Polisi, Llywodraeth Cymru ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru).
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru; Dr Grahame Guilford, Llysgennad Cyllid yr Undeb Ewropeaidd; a Sioned Evans, Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar ei ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.
7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Dirprwy Arweinydd a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddatblygu Economaidd, Ewrop ac Ynni; a Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ei ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.
8.1 Cafodd sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor gyda Dr Hywel Ceri Jones, Cyn-lysgennad Cyllido'r UE ei chanslo oherwydd salwch. Yn lle hynny, cyflwynodd Dr Hywel Ceri Jones dystiolaeth ysgrifenedig i lywio ymchwiliad y Pwyllgor.
9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
10.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad a chanlyniad adolygiad y Bwrdd Taliadau o gefnogaeth staffio i'r Aelodau.